Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 17 Ionawr 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:15 - 10:45 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts Leanne Wood |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Auditor General for Wales, Wales Audit Office Matthew Mortlock, Performance Specialist. WAO |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1. 1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Diolchodd y Cadeirydd i Andrew RT Davies am ddirprwyo ar ei ran fel Cadeirydd dros dro yn ystod ei gyfnod o absenoldeb.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Tom Jackson, sef Clerc newydd y Pwyllgor, i’r cyfarfod, a diolchodd i Alun Davidson, y Clerc blaenorol.
2. Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y cynnydd o ran cyrraedd safon ansawdd tai Cymru
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Matthew Mortlock, Arbenigwr Perfformiad, i’r cyfarfod.
2.2 Cafodd Aelodau’r Pwyllgor eu briffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru, sef Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.
3. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
Eitemau 4 i 7.
4. Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’
4.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’.
5. Adroddiad drafft y Pwyllgor ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai
5.1 Gwnaeth aelodau’r Pwyllgor sylwadau ar adroddiad drafft y Pwyllgor ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai.
5.2 Cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ystyried adroddiad diwygiedig a gaiff ei anfon atynt ar ffurf e-bost.
6. Ystyried y dystiolaeth a gafwyd ynghylch yr adroddiad 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'
6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod sut i ymdrin ag adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru, sef ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus’.
7. Busnes y Pwyllgor yn y dyfodol
7.1 Bu aelodau’r Pwyllgor yn trafod blaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor y gwanwyn 2012.
8. Papurau i'w nodi
8.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.